Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 5 Rhagfyr 2023
Amser:
09.20 -
09.49
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Lesley Griffiths AS Russell George AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Alun Davidson, Gwasanaeth Trawsnewid Strategol Stephen Davies, Y Gwasanaethau Cyfrieithiol Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar, roedd Russell George yn bresennol yn ei le. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Jane Dodds a’r Dirprwy Lywydd
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm.
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 2023
· Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygio Canlyniadol) 2023 (15 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 17 Ionawr 2024 -
3.4 Cais i amserlennu dadl ar Gynnig Heb Ddyddiad Trafod 8411
Datganodd Lesley Griffiths fuddiant fel Aelod o'r Senedd dros Wrecsam.
Nododd y Pwyllgor Busnes gais gan Llyr Gruffydd AS a Sam Rowlands AS i amser gael ei ddyrannu i ddadl ar NNDM8411 yn ymwneud â Chynllun Datblygu Lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. Nododd y Llywydd ei bod wedi gofyn am gyngor ar oblygiadau achosion cyfreithiol cyfredol ac y byddai angen ystyried y cyngor hwn cyn unrhyw benderfyniad ynghylch amserlennu dadl. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at y mater pan fyddai cyngor pellach wedi dod i law.
3.5 Cynigion Deddfwriaethol Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol ar 13 Rhagfyr 2023:
Jack Sargeant
NNDM8419
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reoleiddio casglwyr dyledion yng Nghymru ymhellach.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio casglwyr dyledion sydd wedi cofrestru i god ymddygiad sy'n amddiffyn pobl fregus mewn argyfwng costau byw yn unig;
b) cyflwyno cod ymddygiad Cymru gyfan ar gyfer yr holl asiantau casglu dyledion sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru; ac
c) grymuso awdurdodau safonau masnach lleol ymhellach i weithredu yn erbyn asiantau sy'n camarwain preswylwyr ynghylch eu pwerau a hawliau preswylwyr.
A'r cynnig canlynol ar gyfer 17 Ionawr 2024:
Delyth Jewell
NNDM8370
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar sicrwydd hinsawdd i blant a phobl ifanc.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) diwygio Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 i sicrhau bod y cwricwlwm ysgol yn cynnwys dealltwriaeth o ddifrifoldeb a brys yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol fel cysyniad allweddol ar draws pob maes dysgu a phrofiad;
b) sicrhau bod y cwricwlwm yn adlewyrchu brys ac anghenraid mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a diogelu'r amgylchedd ecolegol;
c) sicrhau nad yw addysgu o'r fath wedi'i gyfyngu i bynciau traddodiadol sy'n cwmpasu'r maes hwn, ond wedi'i wreiddio ar draws pob maes dysgu a phrofiad;
d) cydnabod pwysigrwydd dysgu isganfyddol a hyrwyddo amgylchedd cynaliadwy lle y gall dysgu ddigwydd; ac
e) dechrau mynd i'r afael â phryder hinsawdd ymhlith plant a phobl ifanc.
4 Pwyllgorau
4.1 Llythyr gan Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ynghylch slotiau cyfarfod
Cymeradwyodd y Pwyllgor Busnes y cais i’r Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 gwrdd ar 30 Ionawr a 6 Chwefror 2024.
5 Amserlen y Senedd
5.1 Dyddiadau Toriadau
Trafododd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad Hanner Tymor y Sulgwyn a Thoriad yr Haf 2024, a chytunodd arnynt, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer Hanner Tymor yr Hydref a Thoriad y Nadolig 2024.
6 Trefniadau Cyflwyno
6.1 Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Nadolig
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn, Cwestiynau Ysgrifenedig a gwelliannau i'r Bil Seilwaith (Cymru), pe bai'r egwyddorion cyffredinol yn cael eu cytuno, yn ystod toriad y Nadolig.
7 Gwaith Gweithdrefnol
7.1 Diwygio'r Senedd: Parodrwydd gweithdrefnol
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar barodrwydd gweithdrefnol ar gyfer diwygio'r Senedd a chytunodd mewn egwyddor i ddechrau ystyried meysydd o ddiwygio gweithdrefnol yn ystod hydref 2024.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i archwilio'r posibilrwydd o gynnal sesiynau gweithdy gydag Aelodau sydd â diddordeb yn ystod Gwanwyn 2024, er mwyn llywio datblygiad y gwaith hwn.